Mi dafla maich i lawr yn llwyr
Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar
Mi dafla' 'maich i lawr i gyd
Mi dafla'm baich i lawr yn llwyr

(Y Groes a'r Eiriolaeth) / (Rhagoroldeb Crist)
1,2,3,4,(5);  1,2,4.
Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar
  Wrth deimlo dwyfol loes;
Euogrwydd fel mynyddoedd byd
  Dry'n ganu wrth dy groes.

Os edrych wnaf i'r dwyrain draw,
  Os edrych wnaf i'r de,
Ymhlith a fu, neu ynteu ddaw,
  'Does debyg iddo fe.

Fe roes ei ddwylo pur ar led,
  Fe wisgodd goron ddrain
Er mwyn i'r brwnt gael bod yn wyn
  Fel hyfryd liain main.

Esgyn a wnaeth i entrych nef
  I eiriol dros y gwan;
Fe sugna f'enaid innau'n lân
  I'w fynwes yn y man.

Ac yna caf fod gydag ef
  Pan êl y byd ar dân,
Ac edrych yn ei hyfryd wedd,
  Gan' harddach nag o'r blaen.

              - - - - -
1,2,3,4;  1,3.
Mi dafla' 'maich i lawr i gyd
  Trwy rinwedd dwyfol loes;
Euogrwydd fel mynyddau'r byd
  Dry'n ganu wrth dy groes.

[Mi dafla maich i lawr yn llwyr]

Dan bob cystuddiau fwy na mwy -
  Rhuadau cnawd a byd,
Mae digon nerth
    mewn marwol glwy',
  I'w maddeu oll ynghyd.

Mae angeu'r groes yn awr yn hy'
  Yn dadleu dros y gwan;
Ac angeu fy Iachawdwr cu,
  Cyn hir, a'm cwyd i'r lan.

Trwy angeu Crist daeth ini hedd
  A chymmod yn ei waed;
A thrwy ei glwyfau dyfnion Ef
  Caed ini lwyr iachâd.

              - - - - -

Mi dafla'm baich i lawr yn llwyr,
  Wrth gofio angeu loes;
Euogrwydd fel mynyddau'r byd,
  Dry'n ganu wrth y groes.

Gwnaeth Crist ei babell yn ein plith,
  A'i bresennoldeb sy
Yn troi pob cystudd a phob loes
  Yn hyfryd hedd i ni.

Mi ymddiriedaf yn ei air,
  Er cymmaint yw fy mai;
Fe ddaw yr hyfryd ddedwydd awr
  Im' gael fy llwyr ryddhau.

              - - - - -
1,2,3,4,5,(6).
Mi dafla maich i lawr yn llwyr
  Trwy rinwedd dwyfol loes,
Euogrwydd fel mynyddau'r byd
  Dry'n gana wrth dy groes.

Nid ofnai'r byd,
    nid ofnai'r bedd,
  Ond profi'th hedd a'th rym,
Fy ofnau'n llwyr ond gwel'd dy wedd
  A gwymp i lawr yn ddim.

O anghrediniaeth mawr ei rym,
  Ti roddaist i mi glwy',
Ond yn dy wyneb credo wnaf
  Fod doniau'r nef yn fwy.

Fe'm golchir gan fy nghystudd trwm,
  Fe'm purir yn y tân;
Ac mi dd'of allan, pan ddel dydd,
  Wedi fy nghannu'n lân.

'Rwy'n ffrind i'r bedd,
    rwy'n ffrind i'r groes,
  Cystuddiau ym mhob man;
Er pan ddaeth Iesu a'i gariad rhad
  I lanw'm henaid gwan.

'Rwy'n penderfynu myn'd yn glôff,
  I mewn i deyrnas nef;
Yn well na chadw melys chwant,
  A cholli ei gwm'ni ef.
Fe roes ei ddwylo :: Fe rodd ei ddwylaw
liain :: lian
Esgyn a wnaeth :: Esgynnodd fry
entrych ne' :: entrych nef
fe sugna f'enaid innau'n lân :: Fy enaid innau a dyn efe
gydag :: gyd âg

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Abridge (Isaac Smith 1735-1800)
Arabia (W Cole)
Arnold (Samuel Arnold 1740-1802)
Ballerma (alaw Yspaenaidd)
Bangor (William Tans'ur 1706-83)
Bedford (William Wheale 1696-1727)
Belgrave (William Horsley 1774-1858)
Belmont (William Gardiner 1769-1853)
Cambridge New (John Randall 1717-99)
Cwm-Nêdd (hen alaw)
Devizes (I Tucker 1761-1825)
    (alaw ddiwygiadol, trefn. J T Rees 1857-1949)
French (1615 The CL Psalmes of David)
Martyrdom (Hugh Wilson )
Martyrs / Old Martyrs (1615 Salmydd Ysgotaidd)
St Agnes (J B Dykes 1823-76)
Sophia (John Jones 1766-1857)
Tyddewi (John Francis / John Hughes 1896-1968)

gwelir:
  Am angau'r groes mae canu'n awr
  Agorwyd pyrth y nefoedd wen
  At wedd dy wyneb nid yw ddim
  Boed dyoddefiadau pur y groes
  'Dwy'n ofni'r bedd 'dwy'n ofni'r groes
  Fy enaid gorfoledda mwy
  Goleuni ac anfeidrol rym
  Gwnaeth Crist Ei babell yn ein plith
  Mae yn yr Iesu drysor mwy
  Mi ymddiriedaf yn ei Air
  Nis gall angylion pur y nef
  Os edrych wnaf i'r dwyrain draw
  'Rwy'n ffrynd i'r bedd 'rwy'n ffrynd i'r groes
  Wel f'enaid gorfoledda mwy
  Yn nyfnder profedigaeth ddu

(The Cross and the Intercession) / (The Excellence of Christ)
 
I will throw my burden off from my neck
  While feeling divine anguish;
Guilt like the world's mountains
  Turns to singing at thy cross.

If I do look to the distant East,
  If I do look to the South,
Amongst those who were, or those to come,
  There is none like him.

He put his pure hands wide apart,
  He wore a crown of thorns
That the filthy might become white
  Like comely fine linen.

He has ascended to the height of heaven
  To intercede for the weak;
My soul will suckle completely
  To his breast in a while.

And then I will be with him
  When the world goes on fire,
And look on his comely countenance,
  A hundred times more beautiful than before.

                  - - - - -
 
I will throw my burden down altogether
  Through the merit of divine anguish;
Guilt like the world's mountains
  Turns to singing at thy cross.

[I will throw my burden down completely]

Under all afflictions more and more -
  The roarings of flesh and world,
There is sufficient strength
    in a mortal wound,
  To forgive them all altogether.

The death of the cross is now boldly
  Arguing on behalf of the weak;
And the death of my dear Saviour,
  Before long, will raise me up.

Through the death of Christ peace came to us
  And reconciliation in his blood;
And through His deep wounds
  Complete healing is got for us.

                  - - - - -

I will throw my burden down completely
  By remembering deathly anguish;
Guilt like the world's mountains
  Turns to singing at the cross.

Christ made his tent among us,
  And his presence does
Turn every affliction and every anguish
  Into delightful peace for us.

I will trust in his word,
  Despite how great is my fault;
The delightful happy hour will come
  For me to get set free completely.

                - - - - -
 
I will cast my burden down completely
  Through the merit of divine anguish,
Guilt like the world's mountains
  Turn to singing by the cross.

I will not fear the world,
    I will not fear the grave,
  But prove thy peace and thy force,
My fears completely, but seeing thy face,
  Shall fall down to nothing.

O unbelief of great force,
  Thou gavest to me a wound,
But in thy face believe I shall
  That the gifts of heaven are greater.

I am to be washed by my heavy affliction,
  I am to be purified in the fire;
And I shall come out, when day comes,
  Having been bleached clean.

I am a friend to the grave,
    I am a friend to the cross,
  Afflictions in every place;
Since Jesus came with his free love
  To flood my weak soul.

I am determined to go lame,
  Into the kingdom of heaven,
Rather than keep sweet lust,
  And lose his company.
::
::
He has ascended :: He ascended up
::
My soul will suckle completely :: My soul which he draws
::

tr. 2008,16 Richard B Gillion

 
 
I'll cast my heavy burden down,
  Remembering Jesu's pains;
Guilt, high as towering mountain-tops,
  Here turns to joyful strains.

If to the east or west I turn,
  North, south, or otherwhere,
Of all who came or yet shall come,
  None can with Him compare.

He stretched His pure white hands abroad,
  A crown of thorns He wore,
So that the poorest sinner might
  Be cleansed forevermore.

He rose on high to intercede
  For man, with sin opprest,
My spirit, too, He soon will draw
  Unto Himself to rest.






                  - - - - -
 
I'll cast my heavy burden down,
  Remembering Jesu's pains;
Guilt, high as towering mountain-tops,
  Here turns to joyful strains.

 







He rose on high to intercede
  For man, with sin opprest,
My spirit, too, He soon will draw
  Unto Himself to rest.






            - - - - -

I will throw my burden down completely
  By remembering deathly anguish;
Guilt like the world's mountains
  Turns to singing at the cross.






I will trust in his word,
  Despite how great is my fault;
The delightful happy hour will come
  For me to get set free completely.

                - - - - -
 
I'll cast my heavy burden down,
  Remembering Jesu's pains;
Guilt, high as towering mountain-tops,
  Here turns to joyful strains.



























 
 
 
 
 
 

tr. Rev. Robert Parry
Cân a Mawl / Song and Praise 1918

Tune [CM 8686]: Sophia (John Jones 1766-1857)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~